Mae dilysu a gwireddu yn ddwy ffordd o wneud yn siŵr bod y data sy’n cael eu mewnbynnu i gyfrifiadur yn gywir. Nid oes llawer o werth i ddata sy’n cael eu mewnbynnu’n anghywir.
Gwireddu yw’r broses o wneud yn siŵr bod data yn cael eu copïo o un cyfrwng i un arall yn gywir.
Mae dau brif ddull o wireddu:
Mewnbynnu ddwywaith - mewnbynnu’r data ddwywaith a chymharu’r ddau gopi. Mae hyn mewn gwirionedd yn dyblu’r llwyth gwaith, a gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu talu fesul awr, mae’n costio mwy hefyd.
Prawfddarllen data - mae’r dull hwn yn golygu bod rhywun yn gwirio’r data sydd wedi cael eu mewnbynnu drwy eu cymharu â’r ddogfen wreiddiol. Mae hyn hefyd yn cymryd amser ac mae’n gostus.