defnyddio system o gyfrineiriau fel bod mynediad at ddata wedi’i gyfyngu
storio ffeiliau pwysig yn ddiogel ar ddisgiau symudadwy, er enghraifft, wedi’u cloi mewn sêff sy’n gallu gwrthsefyll tân a dŵr
peidio â gadael i neb ar wahân i staff sydd wedi’u hawdurdodi fynd i rai ardaloedd, er enghraifft drwy ddefnyddio cardiau adnabod neu gardiau sweipio magnetig i reoli mynediad i’r ardaloedd hyn
allgofnodi neu ddiffodd terfynellau bob amser, a’u cloi os yw hynny’n bosibl
defnyddio technegau amgryptio data er mwyn codio data i wneud iddyn nhw edrych fel petaen nhw’n gwneud dim synnwyr
Bancio ar-lein
Pan fyddi di’n bancio ar-lein, ar ôl i ti fewngofnodi, byddi di’n sylwi bod yr http yn y bar cyfeiriad wedi newid i https. Mae hyn yn dangos bod cysylltiad diogel wedi’i sefydlu rhwng dy gyfrifiadur di a chyfrifiadur y banc. Mae data sy’n cael eu hanfon rhwng y ddau gyfrifiadur yn cael eu hamgryptio, felly bydd unrhyw un sy’n ceisio rhyng-gipio dy ddata yn derbyn data sy’n golygu dim. Yr unig ffordd o ddadgryptio’r data a chael data darllenadwy yw drwy ddefnyddio allwedd nad oes ond dau gyfrifiadur yn gwybod amdano – dy gyfrifiadur di a chyfrifiadur y banc.