Mae data yn cael eu prosesu gan gyfrifiaduron ac yn cael eu troi’n wybodaeth. Mae’n bosibl defnyddio’r wybodaeth hon i ffurfio barn a gwneud rhagfynegiadau.
Mae beth sy’n dod allan o system TGCh yn dibynnu i raddau helaeth ar beth rwyt ti’n ei roi i mewn i’r system yn y lle cyntaf.
Mae systemau TGCh yn gweithio drwy gymryd mewnbynnau (cyfarwyddiadau a data), eu prosesu a chynhyrchu allbynnau sy’n cael eu storio neu eu cyfathrebu mewn rhyw ffordd. Os yw ansawdd y mewnbynnau’n dda, ac os ydyn nhw wedi cael eu cynllunio’n dda, bydd yr allbynnau’n fwy defnyddiol.
Ni all systemau TGCh weithio’n iawn os yw’r mewnbynnau’n anghywir neu’n ddiffygiol. Naill ai ni fydd modd prosesu’r data o gwbl, neu bydd y data sy’n cael eu hallbynnu yn wallus neu’n dda i ddim.
Mae GIGO yn derm defnyddiol i’w gofio – mae’n gallu helpu i egluro llawer o broblemau, er enghraifft pam mae angen dilysu data a beth yw gwerth data cywir.