Mae data yn cael eu prosesu gan gyfrifiaduron ac yn cael eu troi’n wybodaeth. Mae’n bosibl defnyddio’r wybodaeth hon i ffurfio barn a gwneud rhagfynegiadau.
Mae angen strwythur er mwyn troi data yn wybodaeth. Mae’r ail a’r drydedd golofn yn y tabl isod yn cynnwys y geiriau YDY/NAC YDY/DO/NADDO, ond heb benawdau does dim ystyr.
Stef | Ydy | |
Jamal | Ydy | |
Adam | Ydy | |
Kieran | Ydy | |
Dylan | Ydy | |
Sophie | Nac ydy | Do |
Max | Nac ydy | Naddo |
Drwy ychwanegu penawdau, mae’r data yn troi’n wybodaeth.
Enw’r disgybl | Presennol | Absenoldeb wedi’i awdurdodi |
---|---|---|
Stef | Ydy | |
Jamal | Ydy | |
Adam | Ydy | |
Kieran | Ydy | |
Dylan | Ydy | |
Sophie | Nac ydy | Do |
Max | Nac ydy | Naddo |
Mae dyfeisiau mewnbynnu yn gallu casglu data yn awtomatig, er enghraifft synwyryddion sy’n mesur tymheredd yn barhaus neu ddarllenydd codau bar mewn til.
Yn y ddwy enghraifft yma bydd y data sy’n cael eu casglu yn cael eu darllen i gronfa ddata i’w prosesu. Ar ôl cael strwythur (y gronfa ddata) mae’r data yn troi’n wybodaeth.
Mae taenlenni yn cael eu defnyddio’n aml i droi data yn wybodaeth.