Diffiniad o ddata

Data = ffeithiau a ffigurau crai sy’n gwneud dim synnwyr neu sy’n golygu dim.

curriculum-key-fact
Data yw geiriau, rhifau, dyddiadau, delweddau, synau ac ati heb gyd-destun.

Dyma restr o eitemau data:

  • 42
  • cwningod
  • 16:00
  • 76
  • afalau
  • 09743245530
  • £40
  • glan y môr
Eglurhad o ddata heb gyd-destun, eitemau yn arnofio yn y gofod.

Mae angen i eitemau data fod yn rhan o strwythur, er enghraifft brawddeg, er mwyn rhoi ystyr iddyn nhw.