Mae gan siapiau 3D solid dri dimensiwn – hyd, lled a dyfnder. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy’r rhwyd. Mae gan brismau drawstoriad cyson, tra bod gan byramidiau ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.
Gallwn ni ddefnyddio papur isometrig i lunio siapiau \({3D}\):
Lluniwyd y ciwb \({6}~cm\times{6}~cm\times{6}~cm\) hwn gan ddefnyddio’r dotiau fel canllaw. Mae’r llinellau fertigol bob amser yn fertigol ond mae’r llinellau llorweddol yn cael eu tynnu ar onglau.
Cymer ddarn o bapur isometrig a rho gynnig ar lunio’r ciwb dy hun.
Defnyddia bapur isometrig i lunio ciwboid â’i hyd yn \({11~cm}\), ei led yn \({6}~cm\) a’i uchder yn \({4}~cm\). Clicia drwy’r sioe sleidiau isod i weld sut i lunio ciwboid â’r dimensiynau hyn.