Mae gan siapiau 3D solid dri dimensiwn – hyd, lled a dyfnder. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy’r rhwyd. Mae gan brismau drawstoriad cyson, tra bod gan byramidiau ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.
Mae’n bosib agor rhai siapiau \({3D}\), megis ciwbiau a phyramidiau, allan yn siâp fflat. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy rhwyd y solid.
Dyma rai siapiau \({3D}\) a’u rhwydi.
Rhaid gallu plygu rhwyd i greu’r siâp \({3D}\). Edrycha ar y siapiau hyn. Rhwydi ciwboid ydyn nhw i gyd. Alli di weld pam y bydden nhw’n plygu i wneud ciwboid?
Edrycha ar y siapiau hyn. Dydyn nhw ddim yn wir rwydi. Alli di weld pam na fydden nhw’n plygu i wneud ciwboid?