Mae gan siapiau 3D solid dri dimensiwn – hyd, lled a dyfnder. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy’r rhwyd. Mae gan brismau drawstoriad cyson, tra bod gan byramidiau ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.
Dylet ti wybod enwau’r solidau isod.
Prism ydy siâp \({3D}\) sydd â thrawstoriad cyson – mae dau ben y solid yr un siâp, a lle bynnag rwyt ti’n ei dorri yn baralel â’r ddau ben fe gei di’r un siâp hefyd.
Mae gan byramid ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.