Mae problemau iechyd amrywiol yn gysylltiedig â defnydd rheolaidd o gyfrifiaduron. Oherwydd hyn, rhaid i gyflogwyr fod yn ymwybodol o’r rheoliadau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.
Ym maes technoleg gwybodaeth mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r materion iechyd a diogelwch amrywiol. Yn ychwanegol at hyn, mae angen cymryd camau er mwyn atal problemau cyffredin rhag digwydd, yn hytrach na cheisio’u datrys yn nes ymlaen.
Mae llawer o ddefnyddwyr cyfrifiaduron yn dioddef problemau cefn difrifol. Mae’n debyg bod hyn oherwydd y ffordd maen nhw’n eistedd wrth y cyfrifiadur.
Mae edrych ar sgrin cyfrifiadur am amser hir yn rhoi straen ar y llygaid, yn enwedig os yw rhywun yn gweithio mewn golau gwael, mewn golau llachar neu wrth sgrin lle mae’r llun yn crynu.
Niwed i’r bysedd, arddyrnau a rhannau eraill o’r corff o ganlyniad i symudiadau ailadroddus dros gyfnod hir yw Anaf Straen Ailadroddus (RSI).
Mae arbenigwyr iechyd wedi awgrymu bod oson sy’n cael ei allyrru o argraffyddion laser yn gallu arwain at broblemau anadlu.