Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.
Drwy brofi gwahanol gyfuniadau o’r halogenau a’u halwynau, galli di ganfod cyfres adweithedd ar gyfer Grŵp 7:
Does dim ots os wyt ti’n defnyddio halwynau sodiwm neu halwynau potasiwm – mae’n gweithio yr un fath ar gyfer y ddau fath.
Mae’r lluniau’n dangos beth sy’n digwydd wrth ychwanegu clorin, bromin ac ïodin at wahanol halwynau halogen:
Mae adweithiau dadleoli halogenau’n adweithiau rhydocs oherwydd mae’r halogenau’n ennill electronau ac mae’r ïonau halid yn colli electronau.
Wrth ystyried un o’r adweithiau dadleoli, gallwn ni weld pa elfen sy’n cael ei hocsidio a pha un sy’n cael ei rhydwytho.
bromin + potasiwm ïodid → ïodin + potasiwm bromid
Br2 + 2KI → I2 + 2KBr
Fel hafaliad ïonig (gan anwybyddu’r ïonau potasiwm segur):
Br2 + 2I– → I2 + 2Br–
Gallwn ni weld bod y bromin wedi ennill electronau, felly mae wedi cael ei rydwytho. Mae’r ïonau ïodid wedi colli electronau, felly maen nhw wedi cael eu hocsidio.
Wrth fynd i lawr Grŵp 7, mae'r adweithedd yn mynd yn llai. Er mwyn bod yn sefydlog, rhaid i'r atom gael plisgyn allanol llawn. Rhaid i elfennau Grŵp 7 ennill 1 electron i gael plisgyn llawn.
O ganlyniad, mae ïon negyddol yn cael ei ffurfio:
Cl + e– → Cl–
Wrth fynd i lawr y grŵp: