Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.
Mae adweithedd yr halogenau – elfennau Grŵp 7 – yn lleihau wrth symud i lawr y grŵp. Gallwn ni ddangos hyn drwy edrych ar adweithiau dadleoli.
Pan mae clorin (fel nwy neu wedi’i hydoddi mewn dŵr) yn cael ei ychwanegu at hydoddiant sodiwm bromid, mae’r clorin yn cymryd lle’r bromin. Gan fod clorin yn fwy adweithiol na bromin, mae’n dadleoli y bromin o sodiwm bromid.
Mae’r hydoddiant yn troi’n frown. Y lliw brown hwn yw’r bromin wedi’i ddadleoli. Mae’r clorin wedi mynd i ffurfio sodiwm clorid.
Yn yr hafaliad hwn, mae’r Cl a’r Br wedi newid lle:
Mae’r math hwn o adwaith yn digwydd gyda phob halogen.