Ystyr ‘canran’ ydy ‘y cant’. Os ydy 70 y cant o’r boblogaeth yn berchen ar anifail anwes, mae hynny’n golygu bod 70 o bob cant o bobl yn berchen ar anifail anwes. Ystyr y symbol ‘%’ ydy ‘y cant’.
Mae ffrog, a gostiai \(\pounds{80}\) yn wreiddiol, \(\pounds{10}\) yn rhatach yn y sêl. Pa ganran o ostyngiad ydy hyn?
\[{10}\div{80} = {0.125}\]
\[{0.125}\times{100}\% = {12.5}\%\]
Felly mae pris y ffrog wedi gostwng \({12.5}\%.\)
Mae gan dîm nofio \({20}\) o aelodau ac mae \({12}\) o’r rhain yn fechgyn. Pa ganran o’r tîm nofio sy’n fechgyn?
\[\frac{12}{20}\times{100} = {60}\]
Felly mae \({60}\%\) o’r tîm yn fechgyn.