Effeithiau e-fasnach ar fusnesau
Mae siopau’r stryd fawr bellach yn canfod eu hunain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am fusnes ar y stryd fawr ac ar-lein.
Gwerthu nwyddau ar-lein
Manteision
- Agor y farchnad i gwsmeriaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Galluogi cwmnïau llai i gystadlu yn erbyn cwmnïau mawr.
- Lleihau nifer y staff a/neu’r siopau stryd fawr a thrwy hynny’n lleihau costau.
- Rhoi’r dewis i gwsmeriaid siopa 24 awr y diwrnod heb orfod talu fawr mwy.
Anfanteision
- Mwy o gystadleuaeth - mae busnesau a oedd ar un adeg yn cystadlu yn erbyn y siop yn y dref agosaf bellach yn canfod eu hunain yn cystadlu ar raddfa fyd-eang.
- Lleihau nifer y staff - gan fod mwy o gystadleuaeth, mae’n bosibl y bydd cwmnïau lleol yn gorfod lleihau eu gweithlu.
- Cost ailstrwythuro - mae’n bosibl na fydd y newid i e-fasnach yn digwydd yn llyfn, ac yn sicr bydd angen rhywfaint o fuddsoddiad.
- Pryderon cwsmeriaid - os bydd siopau’r stryd fawr yn cael eu cau mewn ymdrech i arbed arian, mae’n bosibl na fydd cwsmeriaid y mae’n well ganddyn nhw siopa ar y stryd fawr yn teimlo’n gyfforddus wrth brynu ar-lein, ac y byddan nhw’n mynd i rywle arall.
Mwy o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd
Erbyn heddiw, mae pwysau ar gwmnïau ac unigolion i gael mynediad i’r rhyngrwyd er mwyn gwneud pethau bob dydd fel cyflwyno archebion neu edrych am fanylion mewn catalog. Mae mentrau wedi’u sefydlu er mwyn sicrhau bod cynifer o wasanaethau ag sy’n bosibl ar gael ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-lywodraeth, lle mae’n bosibl cysylltu ag adrannau’r llywodraeth, er enghraifft Cyllid y Wlad, drwy ddefnyddio gwefannau diogel.