Rhyfela – 13eg, 14eg a'r 15fed ganrif

Llinell amser sy’n dangos y prif ddigwyddiadau mudo o ddechrau’r Croesgadau yn 1095 hyd at Chwyldro’r gwŷr traed yn y 15fed ganrif

Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd pobl yn mynd i ryfel am nifer o resymau. Roedd brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr yn brwydro am reolaeth wleidyddol, drwy gymryd tir a mynnu teyrngarwch. Roedden nhw’n ymladd er mwyn ehangu eu hymerodraethau a’u tiriogaethau neu i amddiffyn yn erbyn gorchfygwyr. Ar bob cyfle, roedd pobl ganoloesol yn ceisio elwa’n economaidd drwy adnoddau newydd neu gyfleoedd masnachu, yn ogystal â lledaenu ac amddiffyn eu crefydd. Arweiniodd hynny at wrthdaro.

Yn Ewrop, roedd dylanwad crefydd ar ryfel yn amlwg. Am ddwy ganrif ar ôl 1095, brwydrodd Cristnogion Ewropeaidd yn erbyn yr Arabiaid yn Nhir Sanctaidd y Dwyrain Canol. Roedd y Croesgadau hyn yn ymladd yn erbyn y Mwslimiaid yn wreiddiol er mwyn amddiffyn Jerusalem. Yng Nghymru, cafodd ymgyrchoedd sylweddol eu hymladd yn erbyn y Saeson gan bobl fel Owain Glyndŵr.

curriculum-key-fact
Datblygodd rhyfela yn sylweddol o’r 13eg ganrif.

Arweiniodd y pwysau cyson ar ymladd at ddefnyddio gwŷr traed yn amlach, yn enwedig ar ôl i’r Pla Du leihau’r boblogaeth yn sylweddol. Roedd yr hen syniad o recriwtio dynion drwy’r system ffiwdal yn newid, a phan ddechreuodd Edward I ei goncwest o Gymru yn 1277, roedd nifer o’i ddynion yn hurfilwyr.

Arweiniodd technoleg newydd at newidiadau i’r dulliau ymosod ac amddiffyn. Arweiniodd datblygiad y bwa croes at arfwisgoedd plât, ac arweiniodd cestyll cryfach at beiriannau a thactegau gwarchae gwell, fel tangloddio. Erbyn y 15fed ganrif, datblygodd rhyfela ar raddfa llawer mwy, yn fwy technolegol ac yn fwy trefnus.