Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.
Wrth ddefnyddio cynnig a gwella, dyfala beth allai’r ateb fod, wedyn gwella ar hynny nes dod yn agos at yr ateb cywir.
Mae gan sgwâr arwynebedd o \({20}~cm^{2}\). Defnyddia ddull cynnig a gwella i ganfod hyd ei ochrau, yn gywir i \({1}\) lle degol.
Dechreua drwy roi cynnig ar \({4}\):
\({4}\times{4} = {16} \)(rhy fach)
Mae \({4}\) yn rhy fach, felly rho gynnig ar \({5}\):
\({5}\times{5} = {25} \)(rhy fawr)
Mae \({4}\) yn rhy fach, a \({5}\) yn rhy fawr, felly mae’r ateb rhwng \({4}\) a \({5}\).
Rho gynnig ar \({4.5}\):
\({4.5}\times{4.5} = {20.25} \)(rhy fawr)
Rho gynnig ar \({4.4}\):
\({4.4}\times{4.4} = {19.36} \)(rhy fach)
Felly, mae’r ateb rhwng \({4.4}\) a \({4.5}\).
Ond ydy’r ateb yn agosach at \({4.4}\) neu \({4.5}\)? Rhaid gweld be sy’n digwydd gyda’r rhif sydd yn union hanner ffordd rhwng \({4.4}\) a \({4.5}\), sef \({4.45}\).
\({4.45}\times{4.45} = {19.802}\), felly mae’n rhaid bod yr ateb cywir rhwng \({4.45}\) a \({4.50}\), ac felly mae’r ateb cywir yn agosach at \({4.5}\) na \({4.4}\).
Felly yr ateb ydy \({4.5}~cm\) i \({1}\) lle degol.
Beth am ganfod hyd yr ochr yn gywir i \({4}\) le degol i gael ateb mwy cywir? Er enghraifft:
\({4.45}\times{4.45} = {19.8025}\)(rhy fach)
Rhaid rhoi cynnig ar werthoedd uwch felly:
\({4.47}\times{4.47} = {19.9809} \)(rhy fach)
\({4.48}\times{4.48} = {20.0704} \)(rhy fawr)
Felly, mae’r ateb rhwng \({4.47}\) a \({4.48}\)
Ond ydy’r ateb yn agosach at \({4.47}\) neu \({4.48}\)? Rhaid gweld be sy’n digwydd gyda’r rhif sydd yn union hanner ffordd rhwng \({4.47}\) a \({4.48}\), sef \({4.475}\).
\({4.475}\times{4.475} = {20.025625}\), felly mae’n rhaid bod yr ateb cywir rhwng \({4.470}\) a \({4.475}\), ac felly mae’r ateb cywir yn agosach at \({4.47}\) na \({4.48}\).
Felly yr ateb ydy \({4.47}~cm\) i \({2}\) le degol.