Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.
Mae’r dull ar gyfer talgrynnu i nifer penodol o ffigurau ystyrlon bron yn union yr un fath â’r dull ar gyfer talgrynnu i nifer penodol o leoedd degol.
Mae angen edrych ar y rhif ar ôl yr un sydd o ddiddordeb i ti, i weld a ydy e’n fwy neu’n llai na \({5}\). Os ydy e’n llai na \({5}\), talgrynna i lawr. Os ydy e’n \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.
Talgrynna \({0.0724591}\) i \({3}\) ffigur ystyrlon.
I dalgrynnu i dri ffigur ystyrlon, edrycha ar y pedwerydd ffigur ystyrlon. \({5}\) ydy’r ffigur, felly talgrynna i fyny.
Felly, \({0.0724591} = {0.0725}\) (\({3}\) ffigur ystyrlon).
Talgrynna \({0.2300105}\) i \({4}\) ffigur ystyrlon.
I dalgrynnu i bedwar ffigur ystyrlon, edrycha ar y pumed ffigur ystyrlon. \({1}\) ydy’r ffigur, felly talgrynna i lawr.
Felly, \({0.2300105} = {0.2300}\) (\({4}\) ffigur ystyrlon).
Er bod \({0.2300}\) yr un fath â \({0.23}\), rhaid cynnwys y seroau er mwyn dangos dy fod wedi talgrynnu i \({4}\) ffigur ystyrlon.
Talgrynna \({235.86}\) i \({3}\) ffigur ystyrlon.
\[{236}\]
Y trydydd ffigur ystyrlon ydy \({5}\) sy’n cael ei ddilyn gan \({8}\), felly talgrynna i fyny.
Talgrynna \({235.86}\) i \({1}\) ffigur ystyrlon.
\[{200}\]
Yr ail ffigur ystyrlon ydy \({3}\), felly mae’r ffigur ystyrlon cyntaf yn aros fel \({2}\). Rhaid cynnwys y ddau sero hyn i sicrhau bod y gwerth yn gywir.