Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.
Mae lleoedd degol yn cael eu cyfrif o’r pwynt degol:
Felly, mae gan y rhif \({5.1492}\) bedwar lle degol ac mae gan \({4.34}\) ddau le degol.
I dalgrynnu rhif i nifer penodol o leoedd degol, edrycha ar y ffigur yn y lle degol nesaf.
Os ydy e’n llai na \({5}\) talgrynna i lawr.
Os ydy e’n \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.
Talgrynna \({7.2648}\) i \({2}\) le degol
I dalgrynnu i \({2}\) le degol, edrycha ar y ffigur yn y trydydd lle degol. \({4}\) ydy’r ffigur, felly talgrynna i lawr.
Felly, \({7.2648} = {7.26}\) (\({2}\) le degol)
Talgrynna \({8.352}\) i \({1}\) lle degol
I dalgrynnu i un lle degol, edrycha ar y ffigur yn yr ail le degol. \({5}\) ydy’r ffigur, felly talgrynna i fyny.
Felly, \({8.352}\) = \({8.4}\) (\({1}\) lle degol)
I dalgrynnu rhif i nifer penodol o leoedd degol felly, mae'n rhaid i'r ateb fod â'r nifer hwnnw o leoedd degol, hyd yn oed os oes rhaid i ti ychwanegu un sero neu fwy.
Er enghraifft, mae talgrynnu \({3.40021}\) i ddau le degol yn rhoi \({3.40}\) (\({2}\) le degol).
Mae angen ysgrifennu’r \({2}\) le degol, er mai sero ydy’r ail rif, i ddangos dy fod wedi talgrynnu i ddau le degol.
Cofia edrych ar y ffigur ar ôl yr un sydd o ddiddordeb i ti. Os ydy e’n llai na \({5}\), talgrynna i lawr. Os ydy e’n \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.