Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.
Dychmyga dy fod yn prynu crys T am \(\pounds{9.99}\), pâr o sanau am \(\pounds{1.49}\) a belt am \(\pounds{8.99}\). Mae’r person wrth til yn codi \(\pounds{23.47}\) arnat ti. Rwyt ti’n teimlo bod hyn yn ormod – ond sut rwyt ti’n gwybod?
Un ffordd o ganfod a ydyn nhw wedi codi gormod arnat ti ydy amcangyfrif beth ddylai’r cyfanswm fod. Talgrynna’r gwahanol brisiau’n rhifau haws – tua \(\pounds{10}\) yn fras ydy \(\pounds{9.99}\), tua \(\pounds{1.50}\) ydy \(\pounds{1.49}\), a tua \(\pounds{9}\) ydy \(\pounds{8.99}\) – a gelli di wneud y cyfrif yn gyflym yn dy ben.
\[\pounds{9.99} + \pounds{1.49} + \pounds{8.99}\approx\pounds{10} + \pounds{1.50} + \pounds{9} = \pounds{20.50}\]
Mae hyn bron \(\pounds{3}\) yn llai nag y gofynnodd y siopwr amdano, felly’n amlwg mae wedi codi gormod arnat ti.
Sylwer: ystyr y symbol \(\approx\) ydy 'tua'.
Wrth dalgrynnu’r gwerthoedd go iawn i rifau haws eu trin, gelli di amcangyfrif yr atebion i lawer o broblemau:
\[\pounds{2.99} + \pounds{3.10} + {99}c\approx\pounds{3} + \pounds{3} + \pounds{1} = \pounds{7}\]
\[{29}\times{9}\approx{30}\times{10} = {300}\]
\[{61}\div{6}\approx{60}\div{6}={10}\]