Mae cyfrifiaduron yn defnyddio dau fath o storfa - prif storfa, sy’n cynnwys ROM a RAM, a storfeydd cynorthwyol. Mae storfeydd cynorthwyol yn gallu bod yn fewnol, er enghraifft disg caled, neu’n allanol, er enghraifft gyriant fflach USB.
Gall disg caled allanol storio llawer iawn o ddata, er enghraifft 1TB, ac mae’n bosibl ei blygio i mewn i gyfrifiadur drwy USB neu borth FireWire er mwyn cael mwy o le storio. Mae’r disgiau yr un fath yn y bôn â’r disg caled sydd yn dy gyfrifiadur, ond oherwydd y casin mae’n bosibl eu defnyddio’n allanol.
Dyfais USB maint bawd yw cof bach. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i ddisg hyblyg ond ei fod yn cael ei roi yn y porth USB – mae’n cael ei weld gan y cyfrifiadur wedyn fel gyriant symudadwy. Maen nhw’n amrywio o ran maint o 512MB i 32 GB a mwy gan ddibynnu ar y pris.
Dyfais USB maint stamp yw cerdyn cof. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i ddisg hyblyg ond mae’n cael ei roi mewn darllenydd cardiau cof neu drawsnewidydd USB - mae’n cael ei weld gan y cyfrifiadur wedyn fel gyriant symudadwy. Maen nhw’n amrywio o ran maint o 1 GB i 32 GB a mwy, gan ddibynnu ar y pris. Mae llawer o fformatau cardiau cof ar gael, ond er 2010 y cerdyn SD yw’r fformat sy’n cael ei ffafrio fwyaf.