Mae cyfrifiaduron yn defnyddio dau fath o storfa - prif storfa, sy’n cynnwys ROM a RAM, a storfeydd cynorthwyol. Mae storfeydd cynorthwyol yn gallu bod yn fewnol, er enghraifft disg caled, neu’n allanol, er enghraifft gyriant fflach USB.
Mae llawer o wahanol fathau o ddisgiau optegol, er bod pob un yn edrych yn ddigon tebyg.
Disgiau optegol sy’n defnyddio’r un dechnoleg â CDs cerddoriaeth. Maen nhw’n storio hyd at 700MB o ddata. Mae’n bosibl defnyddio CDs ar gyfer rhaglenni amlgyfrwng, er enghraifft gwyddoniaduron, a gallant storio lluniau, seiniau a chlipiau fideo neu unrhyw beth arall fydd yn ffitio.
Mae nifer o fformatau ar y farchnad, er enghraifft:
Mae DVDs yr un faint â CDs o safbwynt ffisegol, ond maen nhw’n dal llawer mwy o ddata – gall disg un ochr ddal hyd at 4.7 GB. Mae DVDs yn cael eu defnyddio’n aml i storio fideo, felly yn aml iawn maen nhw’n cael eu mesur mewn munudau, er enghraifft 4.7 GB = 120 munud.
Mae nifer o wahanol fformatau ar y farchnad, er enghraifft:
Er mwyn darllen data sydd ar CDs a DVDs, neu ysgrifennu data arnyn nhw, bydd angen i ti gael gyriant addas. Mae gyriannau CD/DVD yn gallu:
Mae data yn cael eu hysgrifennu ar ddisg a’u darllen oddi ar ddisg drwy ddefnyddio laser.