Arwynebedd siâp ydy mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Rydyn ni'n mesur arwynebedd siâp mewn sgwariau, ee centimetrau sgwâr, metrau sgwâr a chilometrau sgwâr.
Arwynebedd paralelogram ydy:
\[{sail}~({b}) \times {uchder~perpendicwlar}~({h})\]
Gelli di weld bod hyn yn wir trwy ad-drefnu’r paralelogram i wneud petryal.
Canfydda arwynebedd y paralelogram:
Yr ateb ydy \({21}~{cm}^{2}\).
Cofia ddefnyddio’r uchder perpendicwlar.