Trionglau

Edrycha ar y triongl isod:

Diagram arwynebedd triongl

Os wyt ti’n lluosi’r sail â’r uchder perpendicwlar, rwyt ti’n cael arwynebedd petryal. Mae arwynebedd y triongl yn hanner arwynebedd y petryal.

Felly i ganfod arwynebedd triongl, lluosa’r sail â’r uchder perpendicwlar a rhannu â dau. Dyma’r fformiwla:

{Arwynebedd} = \frac{{b}\times{h}}{2}

Question

Canfydda arwynebedd y triongl hwn:

Diagram arwynebedd triongl

Arwynebedd y triongl ydy: \frac{{5}\times{8}}{2} = \frac{40}{2}= {20}~cm^{2}