Arwynebedd siâp ydy mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Rydyn ni'n mesur arwynebedd siâp mewn sgwariau, ee centimetrau sgwâr, metrau sgwâr a chilometrau sgwâr.
Ffordd arall o ganfod arwynebedd petryal ydy lluosi ei hyd â’i led.
Dyma’r fformiwla: \({arwynebedd} = {hyd}\times{lled}\)
Gallwn ad-drefnu’r fformiwla hon i ganfod yr hyd neu’r lled:
\[{hyd} = {arwynebedd}\div{lled}\]
\[{lled} = {arwynebedd}\div{hyd}\]
Beth ydy hyd y petryal hwn?
Mae’r arwynebedd yn \({56}~cm^{2}\) a’r lled yn \({7}~cm\), felly mae’r hyd yn \({56}\div{7} = {8}~cm\)