Arwynebedd siâp ydy mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Rydyn ni'n mesur arwynebedd siâp mewn sgwariau, ee centimetrau sgwâr, metrau sgwâr a chilometrau sgwâr.
Mae gan sgwâr centimetr hyd o \({1}~cm\). Rydyn ni’n dweud bod ganddo arwynebedd o \({1}~cm^{2}\) (\({1}~cm\) wedi ei sgwario).
Mae'r petryal hwn yn cynnwys chwe sgwâr centimetr. Mae gan bob un o’r sgwariau arwynebedd o \({1}~{cm}^{2}\), felly arwynebedd y petryal ydy \({6}~cm^{2}\).
Trwy gyfrif y sgwariau, canfydda arwynebedd y siapiau canlynol:
a)
b)
a) \({10}~{cm}^{2}\)
b) \({8}~{cm}^{2}\)
Cofia, mae chwe sgwâr cyfan a phedwar hanner sgwâr yn y triongl.