Mae llawer o adweithiau'n anghildroadwy. Ond mewn adwaith cildroadwy, mae'r cynhyrchion yn gallu adweithio i gynhyrchu'r adweithyddion gwreiddiol. Ar ecwilibriwm, dydy crynodiadau'r adweithyddion a'r cynhyrchion ddim yn newid. Rydyn ni'n defnyddio llawer o amonia mewn gwrteithiau, ac yn ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses Haber.
Un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n defnyddio amonia yw i gynhyrchu gwrteithiau. Mae’r gwrteithiau mwyaf effeithiol yn cynnwys nitrogen oherwydd mae angen nitrogen ar blanhigion i gynhyrchu proteinau. Mae ffosfforws a photasiwm hefyd yn elfennau hanfodol sydd i'w canfod yn aml mewn gwrteithiau. Mae manteision ac anfanteision wrth ddefnyddio gwrteithiau artiffisial.
Halwynau amoniwm yw llawer o wrteithiau. Gallwn ni hefyd eu gwneud nhw o amoniwm hydrocsid (hydoddiant amonia). Os ydyn ni’n defnyddio amoniwm hydrocsid, mae’r adwaith niwtralu hefyd yn cynhyrchu dŵr.
Amonia + asid nitrig → amoniwm nitrad
NH3 + HNO3 → NH4NO3
Amoniwm hydrocsid + asid nitrig → amoniwm nitrad + dŵr
NH4OH + HNO3+ → NH4NO3 + H2O
Amonia + asid sylffwrig → amoniwm sylffad
2NH3 + H2SO4 → (NH4)2SO4
Amoniwm hydrocsid + asid sylffwrig → amoniwm sylffad + dŵr
2 NH4OH + H2SO4 → (NH4)2SO4 + H2O