Mae llawer o adweithiau'n anghildroadwy. Ond mewn adwaith cildroadwy, mae'r cynhyrchion yn gallu adweithio i gynhyrchu'r adweithyddion gwreiddiol. Ar ecwilibriwm, dydy crynodiadau'r adweithyddion a'r cynhyrchion ddim yn newid. Rydyn ni'n defnyddio llawer o amonia mewn gwrteithiau, ac yn ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses Haber.
Mae amonia, NH3, yn ddefnydd crai pwysig wrth gynhyrchu gwrteithiau. Mae rhywfaint o’r amonia yn cael ei drawsnewid yn asid nitrig sydd ei hun yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwrteithiau a ffrwydron. Mae amonia hefyd yn gynhwysyn defnyddiol mewn rhai hylifau glanhau.
Mae amonia yn gyfrwng hanfodol i ddarparu nitrogen o’r aer i blanhigion i’w galluogi nhw i adeiladu moleciwlau protein. Dydy planhigion ddim yn gallu defnyddio nitrogen yn uniongyrchol o’r aer. Mae angen i blanhigion amsugno cyfansoddion nitrogen, wedi’u hydoddi mewn dŵr, drwy eu gwreiddiau.
Heb wrteithiau synthetig, seiliedig ar amonia, fyddai’r byd ddim yn gallu tyfu digon o fwyd i fwydo ei boblogaeth.
Mae amonia, NH3, yn nwy alcalïaidd ac felly mae’n troi papur litmws coch llaith yn las.
Gallwn ni adnabod ïonau amoniwm (NH4+) – sydd mewn cyfansoddion amoniwm fel amoniwm clorid, amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad – drwy wresogi hydoddiant o’r ïonau gyda sodiwm hydrocsid. Mae’r adwaith hwn yn cynhyrchu nwy amonia, fel mae’r hafaliad ïonig yn ei ddangos.
NH4+(dyfr) + OH–(dyfr) → NH3(n) + H2O(h)
Yna, gallwn ni brofi’r nwy amonia sy’n cael ei ryddhau fel sydd wedi’i ddisgrifio uchod.