Cyfraith yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) sydd wedi’i chynllunio er mwyn diogelu data personol sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron neu mewn system ffeilio bapur wedi’i threfnu.
Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i grewyr rhai mathau o gyfryngau i reoli sut maen nhw’n cael eu defnyddio a’u dosbarthu. Gall cyfraith hawlfraint fod yn berthnasol i gerddoriaeth, llyfrau, fideos a meddalwedd.
Pan fyddi di’n prynu meddalwedd, er enghraifft, mae cyfraith hawlfraint yn dy wahardd rhag:
Mae cwmnïau meddalwedd yn cymryd llawer o gamau i atal lladrata meddalwedd:
Sefydlwyd FAST yn 1984 gan y diwydiant meddalwedd ac erbyn hyn mae’n cael ei gefnogi gan dros 1,200 o gwmnïau. Mae’n sefydliad dielw a’i nod yw atal lladrata meddalwedd. Mae ganddo bolisi o erlyn unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri cyfraith hawlfraint.
Mae FAST hefyd yn addysgu’r cyhoedd ynghylch arferion da wrth ddefnyddio meddalwedd a’r gofynion cyfreithiol.