Cyfraith yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) sydd wedi’i chynllunio er mwyn diogelu data personol sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron neu mewn system ffeilio bapur wedi’i threfnu.
Pasiwyd y ddeddf hon gan y senedd ac mae’n creu tair trosedd newydd:
Mae hyn yn darparu amddiffyniad i berchnogion yr hawlfraint ac yn ymdrin â defnyddio cyfrifiaduron i gopïo gwaith ysgrifenedig, cerddorol neu ffilm. FAST yw’r corff sy’n ceisio atal dwyn meddalwedd yn y diwydiant.
Mae deddfau fel y Ddeddf Hawlfraint wedi cael eu defnyddio mewn rhai achosion i geisio atal gwefannau rhannu ffeiliau neu unigolion sy’n storio deunydd hawlfraint, er enghraifft cerddoriaeth, ac yn eu dosbarthu’n anghyfreithlon. Mae llawer o bobl ar hyd a lled y byd yn cael gafael ar ddeunydd hawlfraint yn anghyfreithlon, ac mae’n broblem fawr iawn.
Mae rhai ystafelloedd sgwrsio wedi cael eu cau o ganlyniad i gael eu camddefnyddio, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae plant yn agored i niwed. Mae gan rai safleoedd gymedrolwyr sy’n helpu i atal camddefnydd. Mae cyngor ynglŷn â defnydd call yn bwysig; yn fwyaf arbennig, peidio byth â rhoi manylion cysylltu personol na threfnu cyfarfodydd heb fod yn ofalus iawn.
Mae’n bosibl lleihau ebyst sbam:
Nid yw gwneud rhywbeth yn anghyfreithlon, neu gyflwyno rheoliadau, yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae angen i ddefnyddwyr cyfrifiaduron cyfrifol gymryd camau rhesymol i gadw eu data’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwneud copïau wrth gefn yn rheolaidd a sicrhau diogelwch digonol drwy gyfrineiriau.