Cyfraith yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) sydd wedi’i chynllunio er mwyn diogelu data personol sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron neu mewn system ffeilio bapur wedi’i threfnu.
Mae data sy’n cael eu storio’n electronig yn haws i’w camddefnyddio a gall hyn olygu bod data’n cael eu llygru, yn ddamweiniol neu’n fwriadol.
Mae camddefnyddio cyfrifiaduron a systemau cyfathrebu yn digwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd:
Mae hacio’n digwydd pan fydd person heb ei awdurdodi’n defnyddio cysylltiad rhwydwaith, rhyngrwyd neu fodem i gael mynediad heibio i gyfrineiriau diogelwch neu fesurau diogelu eraill i weld data sy’n cael eu storio ar gyfrifiadur arall. Weithiau mae hacwyr yn defnyddio offer hacio meddalwedd, ac yn aml iawn maen nhw’n targedu safleoedd arbennig ar y rhyngrwyd.
Mae copïo a throsglwyddo data yn anghyfreithlon yn gyflym iawn ac yn hawdd wrth ddefnyddio cyfrifiaduron ar-lein a dyfeisiau storio sydd â llawer o le, er enghraifft disgiau caled, cofion bach a DVDs. Ni chaiff neb gopïo data personol, ymchwil cwmni a gwaith ysgrifenedig, er enghraifft nofelau a gwerslyfrau, heb ganiatâd pwy bynnag sydd â’r hawlfraint.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol i gopïo cerddoriaeth a ffilmiau a’u dosbarthu ar y rhyngrwyd heb ganiatâd pwy bynnag sydd â’r hawlfraint. Mae hon yn enghraifft gyffredin o gamddefnyddio cyfrifiaduron, a chamddefnyddio’r rhyngrwyd, ac mae’n torri rheoliadau hawlfraint.
Mae llawer o gyhoeddusrwydd wedi’i roi i achosion lle mae pobl yn ffugio bod yn rhywun arall ar-lein ac yn defnyddio gwasanaethau rhyngrwyd, er enghraifft ystafelloedd sgwrsio ac ebost, i dwyllo pobl eraill. Mae ystafelloedd sgwrsio wedi cael eu defnyddio i ledaenu storïau am bobl enwog. Maes lle mae mwy a mwy o gamddefnyddio’r rhyngrwyd i’w weld yw ebost sbam. Mae miliynau o ebyst yn cael eu hanfon i hysbysebu cynnyrch a gwasanaethau cyfreithlon ac anghyfreithlon.
Mae llawer o ddeunydd anweddus a phornograffi ar gael drwy’r rhyngrwyd ac mae’n bosibl eu storio mewn ffurf electronig. Mae llawer o achosion o ddeunydd, sy’n cael ei gategoreiddio fel deunydd anghyfreithlon, neu sy’n dangos gweithredoedd anghyfreithlon, yn cael ei ddarganfod wedi’i storio ar gyfrifiaduron. Mae llawer o achosion hefyd o bobl yn cael eu herlyn am fod â deunydd o’r fath yn eu meddiant.
Mae’r pwnc hwn yn cynnwys camddefnyddio rhifau cardiau credyd sydd wedi’u dwyn neu gardiau credyd ffug i gael nwyddau neu wasanaethau ar y rhyngrwyd, a defnyddio cyfrifiaduron mewn twyll ariannol. Gall twyll o’r fath amrywio o dwyll cymhleth sydd wedi’i gynllunio’n ofalus i ddefnydd syml, er enghraifft defnyddio argraffyddion lliw i argraffu arian ffug.
Mae firysau yn rhaglenni cymharol syml sydd wedi cael eu hysgrifennu gan bobl a’u cynllunio er mwyn achosi niwsans neu ddifrod i gyfrifiaduron neu ffeiliau cyfrifiadurol.