Technegau cyfrifo ar gyfer yr haen uwch i ganfod fformiwlâu empirig a moleciwlaidd sylwedd, masau sylwedd gofynnol mewn adwaith a chyfrifiadau’n ymwneud â molau.
Mae’r hafaliad hwn yn dangos y berthynas rhwng màs fformiwla cymharol, nifer y molau a màs:
Mae 1 môl o sylwedd yn cynnwys 6.022 × 1023 o atomau neu foleciwlau. Mae 6.022 × 1023 yn rhif cyson, sef cysonyn Avogadro.
Gallwn ni ad-drefnu hafaliad i ganfod y màs os ydyn ni’n gwybod nifer y molau a’r màs molar (y màs fformiwla cymharol mewn gramau). Gallwn ni hefyd ei ad-drefnu i ganfod y màs molar os ydyn ni’n gwybod y màs a nifer y molau.
\[\text{màs} = {\text{nifer y molau}}\times{\text{màs fformiwla cymharol}}\]
Cyfrifa nifer y molau o foleciwlau carbon deuocsid mewn 22 g o CO2.
Ar (màs atomig cymharol) carbon, C = 12
Ar ocsigen, O = 16
Mr (màs fformiwla cymharol) carbon deuocsid, CO2 = 12 + 16 + 16 = 44
nifer y molau = 22 ÷ 44 = 0.5 mol
Cyfrifa fàs 2 mol o garbon deuocsid (CO2).
màs = nifer y molau × màs fformiwla cymharol = 2 × 44 = 88 g
Mae màs 10 mol o garbon deuocsid yn 440 g. Beth yw màs fformiwla cymharol carbon deuocsid?
màs fformiwla cymharol = màs ÷ nifer y molau = 440 ÷ 10 = 44
Galli di gyfrifo màs cynnyrch neu adweithydd gan ddefnyddio syniad molau, hafaliad cytbwys a gwerthoedd Ar perthnasol.
Mae asid sylffwrig a sodiwm hydrocsid yn adweithio â’i gilydd i wneud sodiwm sylffad a dŵr:
H2SO4 + 2NaOH → Na2SO4 + 2H2O
Cyfrifa fàs y sodiwm sylffad sy’n ffurfio wrth i 20 g o sodiwm hydrocsid adweithio â gormodedd asid sylffwrig.
Mr sodiwm hydrocsid, NaOH = 23 + 16 + 1 = 40
Mr sodiwm sylffad, Na2SO4 = 23 + 23 + 32 + 16 + 16 + 16 + 16 = 142
Nifer y molau o NaOH = màs ÷ màs fformiwla cymharol = 20 ÷ 40 = 0.5 mol
O’r hafaliad, mae 2 mol o NaOH yn adweithio ag 1 mol o Na2SO4, felly bydd 0.5 mol o NaOH yn adweithio â 0.25 mol o Na2SO4.
màs Na2SO4 = molau × màs fformiwla cymharol = 0.25 × 142 = 35.5 g
Dyma ffordd arall o ddatrys yr enghraifft uchod:
màs Na2SO4 = \(\frac{20}{2 \times 40} \times 142\) = 35.5 g