Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.
Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd.
Ail isradd \({16}\) ydy \({4}\) (achos \({4}^{2} = {4}\times{4} = {16}\)).
Ail isradd \({25}\) ydy \({5}\) (achos \({5}^{2} = {5}\times{5} = {25}\)).
Ail isradd \({100}\) ydy \({10}\) (achos \({10}^{2} = {10}\times{10} = {100}\)).
Beth ydy ail isradd \({4}\)?
\({2}\times{2} = {4}\), felly \({2}\) ydy ail isradd \({4}\).
Ystyr y symbol \(\sqrt{}\) ydy ail isradd, felly
Ystyr \(\sqrt{36}\) ydy 'ail isradd \({36}\)', ac
Ystyr \(\sqrt{81}\) ydy 'ail isradd \({81}\)'.
Fe weli di fotwm ail isradd ar dy gyfrifiannell hefyd.
Y gwrthwyneb i giwbio rhif ydy canfod y trydydd isradd.
Ystyr y symbol \(\sqrt[3]{}\) ydy trydydd isradd, felly
\(\sqrt[3]{27}\) ydy \({3}\) (achos \({3}\times{3}\times{3} = {27}\)).
\(\sqrt[3]{1000}\) ydy \({10}\) (achos \({10}\times{10}\times{10} = {1,000}\)).
Beth ydy trydydd isradd \({8}\)?
\({2}\times{2}\times{2} = {8}\), felly \({2}\) ydy trydydd isradd \({8}\).