Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.
Mae gan bob cyfrifiannell wyddonol fotwm ‘pŵer’. Mae hwn fel arfer wedi ei labelu \([{x}^{y}]\). Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan mae’r rhif indecs yn fawr.
I ganfod beth ydy \({4}^{10}\):
Gwasga \({4}\)
Gwasga’r botwm \({x}^{y}\)
Gwasga \({10}\)
Gwasga \({=}\)
Dylet ti gael yr ateb \({1,048,576}\).
Defnyddia dy gyfrifiannell i ganfod gwerth y canlynol:
a) \({2}^{11}\)
b) \({5}^{8}\)
c) \({2}^{6}\times{3}^{5}\)
a) \({2,048}\)
b) \({390,625}\)
c) \({2}^{6}\times{3}^{5} = {64}\times{243} = {15,552}\)