Adwerthu yw’r gweithgaredd o werthu nwyddau neu wasanaethau i brynwyr ar gyfer defnydd personol, neu i’w defnyddio gan y teulu neu bwy bynnag sy’n byw ar yr aelwyd. Mae adwerthu wedi newid llawer yn y 60 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar y dinasoedd a’r trefi lle rydym yn byw.
Roedd adwerthu yng nghanol dinasoedd yn ddrud iawn oherwydd costau uchel rhentu tir, ond roedd prynu tir ar gyrion dinasoedd yn rhatach. Yn ogystal, roedd llawer o siopau Canol Busnes y Dref (CBD) yn hen ac angen eu moderneiddio. Byddai hyn hefyd wedi bod yn gostus iawn.
Ar un adeg, roedd llawer o siopwyr yn gymharol deyrngar i’w siop leol. Heddiw, mae llawer o bobl yn hoffi cymharu’r mathau o nwyddau a chwilio am bris cystadleuol neu eitem unigryw nad yw i’w chael ym mhob man. Mae canolfannau siopa mawr y tu allan i’r dref yn caniatáu i ddefnyddwyr:
Mae gwelliannau mewn rhwydweithiau ffyrdd, gan gynnwys traffyrdd, yn ein hardaloedd trefol ac o’u cwmpas yn caniatáu i ddefnyddwyr yrru’n gyflym, ac yn aml â llai o dagfeydd, i ardaloedd siopa y tu allan i’r dref o gymharu ag ardaloedd CBD.
O ganlyniad i lwyddiant siopa y tu allan i’r dref, mae adwerthu wedi cael ei ddatganoli, ac mae adwerthwyr mawr wedi symud eu safleoedd o leoliadau canolog mewn ardaloedd CBD i gyrion y ddinas. Mae hyn yn achosi effaith toesen (gogledd America) neu polo (yn y DU) lle mae twll economaidd, cymdeithasol ac adwerthol yng nghanol y ddinas.
Yn ogystal, mae llawer o barciau adwerthu mawr wedi cynyddu traffig a thagfeydd ar y ffyrdd. Mae hyn yn golygu mwy o lygredd o allyriadau pibellau gwacáu ceir, ac mae hynny’n cyfrannu tuag at effaith nwyon tŷ gwydr. Mae rhai parciau adwerthu ar gyrion trefi wedi cael eu datblygu ar safleoedd maes glas. Mae hyn yn niweidiol i’r amgylchedd ac mae’n lleihau’r mannau gwyrdd agored sydd ar gael rhwng un ardal drefol ac un arall.
Mae naw tan bump yn dal yn ffordd boblogaidd o siopa ar y stryd fawr. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae pobl yn disgwyl gallu siopa 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, naill ai ar-lein o’u cartrefi eu hunain neu drwy ymweld â siop fawr sydd ar agor 24 awr y diwrnod.