Adwerthu yw’r gweithgaredd o werthu nwyddau neu wasanaethau i brynwyr ar gyfer defnydd personol, neu i’w defnyddio gan y teulu neu bwy bynnag sy’n byw ar yr aelwyd. Mae adwerthu wedi newid llawer yn y 60 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar y dinasoedd a’r trefi lle rydym yn byw.
Mae adwerthu’n digwydd mewn llawer o ardaloedd yn nhrefi a dinasoedd traddodiadol y DU.
Yng Nghaerdydd, mae parciau adwerthu mawr y tu allan i’r dref i’w gweld ar safleoedd fel Croes Cwrlwys ar gyrion y ddinas. Mae canolfannau siopa modern mawr dan do yng nghanol y ddinas, sydd hefyd yn cael ei alw’n ganol busnes y dref (CBD), er enghraifft Canolfan Dewi Sant 2.
Mae yna hefyd nifer o ardaloedd siopa stryd fawr bach, fel y rhai hynny ym maestrefi’r Eglwys Newydd neu yn ardal dinas fewnol Sblot. Yn ogystal, ym mhob man yng Nghaerdydd, mae nifer o fusnesau adwerthu bach, fel siopau cornel neu archfarchnadoedd unigol.
Mae adwerthu hefyd yn digwydd y tu allan i’r ardal drefol. Mewn pentrefi a phentrefannau bach, mae swyddfeydd post neu siopau cyffredinol bach i’w gweld – mae’r rhain yn darparu cysylltiadau hanfodol ag ardaloedd trefol ac yn darparu nwyddau cyfleus hanfodol i bobl leol.