Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero’n rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.
Dyma’r rheolau ar gyfer arwyddion wrth luosi a rhannu:
Cyfrifa
a) \({5}\times-{4}\)
b) \(-{40}\div-{8}\)
a) Mae gyda ni \({+5}\) a \({-4}\). Mae’r arwyddion yn wahanol, felly bydd yr ateb yn negatif. Felly, \(+{5}\times-{4} = -{20}\).
b) Mae gyda ni \({-40}\) a \({-8}\). Mae’r arwyddion yr un fath, felly bydd yr ateb yn bositif. Felly, \(-{40}\div-{8} = {5}\).