Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero’n rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.
I adio a thynnu rhifau dylet ti ddechrau cyfrif o sero bob amser.
Wrth drafod rhifau positif, mae angen cyfrif i’r dde.
Wrth drafod rhifau negatif, mae angen cyfrif i’r chwith.
Cyfrifa \({4}-{5}-{3}\)
Dychmyga symud i fyny ac i lawr llinell rif i gyrraedd yr ateb.
Gan ddechrau o sero, mae angen cyfrif i fyny i \({4}\), wedyn tynnu \({5}\), wedyn tynnu \({3}\). Yr ateb ydy \({-4}\).
Cyfrifa \({-2}+{9}-{10}+{6}\)
Os ges di’r ateb \({3}\) neu \({+3}\), yna da iawn ti!
Wrth adio neu dynnu rhifau negatif, cofia pan fydd dau arwydd yn ymddangos nesaf at ei gilydd a bod y ddau’n wahanol, yna mae angen tynnu. Pan fydd dau arwydd nesaf at ei gilydd a bod y ddau yr un fath, mae angen adio:
Cyfrifa
a) \({10}+{-7}\)
b) \({4}-{-3}\)
a) \({10}+{-7} ={10}-{7}={3}\)
b) \({4}-{-3}={4}+{3}={7}\)