Pryd mae bywyd yn cychwyn? Archwilia gredoau Iddewig am darddiad a gwerth bywyd dynol. Dysga am agweddau Iddewig at sancteiddrwydd bywyd, yn ogystal â safbwyntiau am erthylu ac ewthanasia.
Mae llawer o ddadleuon pwerus o blaid ac yn erbyn erthyliad.
Gall pobl â chredoau gwahanol gytuno â llawer o’r dadleuon hyn.
Mae llawer o gredinwyr crefyddol yn debygol o gydymdeimlo’n fawr â’r dadleuon y dylai rhywun allu penderfynu beth sy’n digwydd i’w corff eu hun, ond iddyn nhw gall y syniad fod bywyd yn gysegredig fod yn drech nag unrhyw ddadleuon eraill, waeth pa mor dda ydyn nhw.