Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu ynglŷn ag erthylu?

Nid yw’r gair erthylu yn ymddangos yn y Tenakh, ond mae cysyniad sancteiddrwydd bywyd yn un pwysig drwyddi draw.

Yn Exodus, dywedir:

quote
Pan yw dynion wrth ymladd â’i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau’n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae’r dyn i dalu’r ddirwy sy’n ddyledus i’w gŵr ac a bennwyd gan y barnwyr. Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd.Exodus 21:22-23 - Torah

Yma, mae ‘niwed pellach’ yn draddodiadol wedi ei ddehongli i gyfeirio at naill ai’r fenyw neu’r plentyn yn y groth, gan ddangos gwerth cydradd y plentyn yn y groth yn llygaid Iddewiaeth. Ystyrir mai rhodd gan Dduw yw bywyd, i’w barchu a’i ddiogelu. Mewn man arall, mae’r Tenakh yn dysgu bod Duw wedi siarad â’r proffwyd Jeremeia, ac wedi dweud yn glir nad yw’n aros tan yr enedigaeth cyn bod ganddo gynllun ar gyfer unigolyn:

quote
Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe’th adnabûm; a chyn dy eni, fe’th gysegrais; rhoddais di’n broffwyd i’r cenhedloedd.Jeremiah 1:5, Nevi'im

Mae Iddewiaeth yn datgan yn eglur iawn fod Duw’n gyfrifol am bresenoldeb y plentyn sydd heb ei eni yn y groth:

quote
Ti a greodd fy ymysgaroedd, a’m llunio yng nghroth fy mam.Salm 139:13, Ketuvim

Yn gyffredinol, mae Iddewon yn credu bod erthylu’n torri gorchymyn Duw i boblogi’r Ddaear ac yn dinistrio rhywbeth a wnaed ar ddelw Duw.

Ond mae erthylu’n dderbyniol i rai Iddewon, mewn rhai amgylchiadau. Yn ôl yr halakhah, ystyrir mai rhan o gorff y fam yw ffetws ac nid bod dynol llawn. Dyma beth ysgrifennodd y meddyliwr Iddewig uchel ei barch, Rashi:

quote
Am gyhyd â’i fod heb ddod allan i’r byd, ni chaiff ei alw’n beth byw a gellir caniatáu cymryd ei fywyd er mwyn achub y fam.Rashi

Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol?

O fewn Iddewiaeth, gellir cael gwahaniaeth barn. Dyma’r pedwar prif safbwynt.

  • O blaid bywyd - y gred fod erthylu yn ddrwg. Gellir gwneud eithriadau os yw erthylu’n hanfodol i achub bywyd y fam, a chymryd bod pob ymdrech wedi’u gwneud i arbed y ffetws.
  • O blaid dewis - mater i’r fenyw yw penderfynu a ydyw’n iawn iddi gael erthyliad, gan mai hi biau ei chorff.
  • Moesau absoliwt - mae erthylu’n ddrwg ym mhob amgylchiad.
  • Moesau perthynol - mae erthylu’n dderbyniol mewn rhai amgylchiadau.

Mae cyfraith Iddewig yn fwy goddefgar ynghylch erthyliadau yn ystod 40 dydd cyntaf beichiogrwydd, gan yr ystyrir yn draddodiadol mai gwerth cymharol isel sydd i’r embryo datblygol hyd at y pwynt hwn. Mae rhai Iddewon heddiw’n herio’r gred hon.

Mewn Iddewiaeth Uniongred, caniateir erthylu am resymau difrifol yn unig, ee os yw bywyd y fam mewn perygl. Rhaid gwneud y penderfyniad ar ôl ymgynghori â rabbi a fyddai’n rhoi cyngor ar y pwnc. Mewn achosion o drais rhywiol neu losgach, neu os yw’r babi’n debygol o gael ei eni â nam difrifol, caniateir erthyliad, ond dim ond os byddai parhau â’r beichiogrwydd yn achosi trallod difrifol i’r fam ac yn niweidio’i hiechyd meddwl.

Mae llawer o Iddewon Diwygiedig yn methu gwrthwynebu erthylu’n llwyr na derbyn erthylu ‘ar gais’. Byddent yn derbyn erthylu os yw’r beichiogrwydd yn ganlyniad trais neu losgach, neu os byddai nam difrifol ar y plentyn.

Mae yna gred “unwaith y bo’r pen wedi ymddangos”, na chewch chi ddim niweidio’r plentyn, oherwydd ystyrir ei fod wedi’i eni, ac ni chaniateir cymryd un bywyd i arbed un arall. Mae’r gred hon, fod geni’r ‘pen’ yn rhoi statws person i’r babi, yn unigryw i Iddewiaeth. Daw’r gred hon o Mishnah Oholot 7.6

curriculum-key-fact
Yn gyffredinol mae Iddewiaeth yn gyfan gwbl yn erbyn erthylu, gan gredu bod pob bywyd yn gysegredig. Mewn rhai achosion gall Iddewon Diwygiedig dderbyn erthyliad, er enghraifft os oedd y beichiogrwydd yn ganlyniad treisio.