Mae pâr o hafaliadau lle mae angen canfod mwy nag un gwerth yn cael eu galw'n ‘hafaliadau cydamserol’. Mae sawl dull y gelli di ei ddefnyddio i’w datrys.
Yn ogystal â datrys hafaliadau cydamserol drwy ddefnyddio algebra, gelli di eu datrys drwy eu had-drefnu ar ffurf \({y} = {mx}+{c}\) fel bod modd eu plotio fel graffiau llinell syth. Pan fyddi di wedi plotio’r graffiau, gelli di ganfod gwerthoedd \({x}\) ac \({y}\) sy’n datrys yr hafaliadau.
Defnyddia’r dull graffigol i ddatrys yr hafaliadau cydamserol:
\[{y} = {2x}\]
\[{2x} + {y} = {8}\]
Dechreua drwy ad-drefnu’r ddau hafaliad i’w cael ar ffurf:
\[{y} = {mx} + {c}\]
Yn yr achos hwn, dim ond yr ail hafaliad sydd angen ei ad-drefnu. Dyma’r ddau hafaliad bellach:
\[{y} = {2x}\]
\[{y} = {-2x} + {8}\]
Nawr, mae gyda ni ddau hafaliad ar gyfer graffiau llinell syth y gallwn ni eu plotio.
Pan wnawn ni hyn gallwn ni edrych i weld ble mae’r ddwy linell yn croesi (y pwynt croestoriad). Gwerthoedd \({x}\) ac \({y}\) ar y pwynt hwn ydy atebion yr hafaliadau cydamserol.
Yr ateb i’r pâr hwn o hafaliadau cydamserol ydy \({x} = {2}\) ac \({y} = {4}\).