Rydyn ni’n defnyddio asid sylffwrig wrth wneud paent, glanedyddion a gwrteithiau. Mae’r broses gyffwrdd yn dangos adwaith cildroadwy sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu asid sylffwrig.
Yn ogystal â bod yn asid cryf, mae asid sylffwrig hefyd yn ddadhydradydd, sy’n golygu ei fod yn dda iawn am dynnu dŵr o sylweddau eraill. Mae angen i ti gofio dwy enghraifft.
Bydd asid sylffwrig crynodedig yn tynnu moleciwlau dŵr o risialau glas copr(II) sylffad hydradol ac yn gadael powdr gwyn, sef copr(II) sylffad anhydrus.
Bydd asid sylffwrig crynodedig yn tynnu moleciwlau dŵr o foleciwlau glwcos (C6H12O6) i adael carbon pur. Mae’r adwaith hwn yn ecsothermig iawn ac yn cynhyrchu llawer o ager, sy’n gorfodi’r carbon tuag i fyny yn nysgl yr adwaith. Mae hyn yn gwneud i’r carbon edrych fel neidr ddu yn tyfu allan o gynhwysydd yr adwaith.