Mae amryw o danwyddau yn hylosgi, ac mae hi'n bosibl adnabod y cynhyrchion. Mae'r triongl tân yn dangos y tri pheth sydd eu hangen er mwyn i dân losgi. Mae modd defnyddio amryw o ffyrdd i ddiffodd tân. Mae calorimedreg yn cael ei defnyddio i fesur egni.
Mae adweithiau cemegol yn gallu rhyddhau egni golau, egni sain neu egni trydanol. Ond y rhan fwyaf o’r amser, egni gwres sy’n cael ei ryddhau. Enw’r dechneg ar gyfer mesur trosglwyddiadau gwres yw calorimetreg.
Mae’r diagram yn dangos arbrawf calorimetreg syml i fesur yr egni gwres sy’n cael ei ryddhau o danwydd sy’n llosgi:
Fel arfer, byddwn ni’n pwyso’r llosgydd gwirod sy’n cynnwys y tanwydd cyn ac ar ôl yr arbrawf er mwyn canfod màs y tanwydd sydd wedi llosgi.
Wrth gymharu gwahanol danwyddau, mae hi’n bwysig cynnal prawf teg. Mae angen cadw llawer o newidynnau yn gyson. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gallwn ni gael canlyniadau mwy dibynadwy drwy ailadrodd yr arbrawf lawer gwaith. Fel arfer, y brif ffynhonnell cyfeiliornad wrth wneud calorimetreg yw colledion gwres dieisiau i’r amgylchoedd. Gallwn ni leihau hyn drwy ynysu ochrau’r calorimedr a rhoi caead arno.
Mae 3.5 g o danwydd yn cael ei losgi i wresogi 50 cm3 o ddŵr. Mae tymheredd y dŵr yn cynyddu o 22°C i 71°C. Defnyddia’r hafaliad canlynol i gyfrifo’r egni sy’n cael ei ryddhau o bob gram o danwydd.
Egni sy’n cael ei ryddhau = màs y dŵr × 4.2 × newid tymheredd
Mesurir egni yn jouleau, J
4.2 yw cynhwysedd gwres sbesiffig dŵr, J/g°C
Newid tymheredd = tymheredd y dŵr ar ôl gwresogi – tymheredd y dŵr cyn gwresogi
Egni sy’n cael ei ryddhau fesul gram = egni sy’n cael ei ryddhau ÷ màs y tanwydd
Newid tymheredd = 71 – 22 = 49°C
Egni sy’n cael ei ryddhau = 50 × 4.2 × 49 = 10,290 J
Egni pob gram = 10,290 ÷ 3.5 = 2,940 J/g