Rydyn ni’n defnyddio gwahanol dechnegau arbrofol i wahanu amrywiaeth o gymysgeddau i roi sylweddau unigol. Hefyd, mae nifer o ffyrdd o ddweud y gwahaniaeth rhwng newidiadau ffisegol a chemegol.
Rydyn ni’n defnyddio’r dechneg hon i wahanu solid anhydawdd oddi wrth hylif. Fel hyn, gallwn ni wahanu cynnyrch oddi wrth gemegion sydd heb adweithio, sgil gynhyrchion neu hydoddydd.
Pan mae cynnyrch yn cael ei wneud fel hydoddiant, un ffordd o’i wahanu oddi wrth yr hydoddydd yw drwy wneud grisialau. Mae hyn yn golygu anweddu yr hydoddiant i gyfaint llawer llai ac yna gadael iddo oeri. Wrth i’r hydoddiant oeri, mae grisialau’n ffurfio, a gallwn ni gael y rhain drwy hidlo.
Mae distyllu’n gwahanu hylif oddi wrth hydoddiant. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio distyllu syml i wahanu dŵr o heli. Mae’r dull hwn yn gweithio oherwydd mae’r dŵr yn anweddu o’r hydoddiant, ond yna’n cael ei oeri a’i gyddwyso i gynhwysydd arall. Dydy’r halen ddim yn anweddu, felly mae’n aros ar ôl.