Opsiynau peirianneg feddal

Coedwigo

  • Mae coed yn cael eu plannu yn agos at yr afon. Mae hyn yn cynyddu ataliad dŵr glaw ac yn lleihau arllwysiad yr afon. Mae hwn yn opsiwn sydd â chost gymharol isel, ac sy’n gwella ansawdd amgylcheddol dalgylch afon.
  • Nid yw coedwigo yn mynd i atal llifogydd, ond gall helpu i’w wneud yn llai tebygol.

Llifogydd a reolir (hefyd yn cael ei alw’n llifogydd ecolegol)

Mae hyn yn golygu gadael i’r afon orlifo’n naturiol mewn rhai mannau, er mwyn atal llifogydd mewn ardaloedd eraill – er enghraifft, yn agos at aneddiadau.

Cynllunio (cylchfaoedd defnydd tir)

  • Mae awdurdodau lleol a llywodraeth y DU yn cyflwyno polisïau i reoli datblygiad trefol yn agos at y gorlifdir neu ar y gorlifdir. Mae hyn yn lleihau’r siawns o lifogydd a’r perygl o ddifrod i eiddo.
  • Weithiau mae gwrthwynebiad i gyfyngiadau datblygu mewn ardaloedd lle mae prinder tai.
  • Wrth gynllunio ar gyfer anheddiad newydd mewn ardal, mae’n bosibl defnyddio cylchfaoedd i rannu’r gorlifdir yn ardaloedd sydd â gwahanol lefelau o berygl llifogydd. Bydd ardaloedd coch yn lleoedd sy’n debygol o fod â risg uchel o lifogydd. Bydd ardaloedd melyn yn lleoedd lle mae llifogydd yn bosibl ond yn annhebygol. Bydd ardaloedd gwyrdd yn lleoedd lle mae llifogydd yn annhebygol iawn.
  • Mae hyn yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â chodi adeiladau newydd mewn ardal ond nid yw’n gweithio mewn ardaloedd lle mae adeiladau wedi’u codi’n barod.

Golchdiroedd

  • Darnau o dir y gall dŵr olchi drostynt yn ystod llifogydd yw’r rhain. Maen nhw i’w gweld yn rhan isaf cwrs yr afon fel arfer. Bydd llifddorau’n cael eu hagor i adael i ddŵr gormodol lifo i’r ardal a gorlifo dros dir ymylol.
  • Nid yw’n hawdd dod o hyd i ardaloedd derbyniol i hyn ddigwydd bob amser – yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer o ddinasoedd.
Llun yn dangos tair enghraifft o beirianneg feddal i wrthsefyll llifogydd.Dulliau peirianneg feddal