Mae teleweithio, neu telegymudo fel mae’n cael ei alw weithiau, yn golygu gweithio gartref gan ddefnyddio technoleg fodern i gadw mewn cysylltiad â’r busnes. Mae’n bosibl adleoli swyddi i lefydd sy’n fwy atyniadol, yn fwy cyfleus neu’n rhatach i fyw ynddyn nhw.
Technoleg sydd ei hangen ar gyfer teleweithio
Er mwyn gweithio’n effeithiol, mae angen i deleweithwyr gael y canlynol:
Mae’n bosibl lleihau costau rhedeg swyddfa a gorbenion (trethi, trydan, gwres, ac yn y blaen), a gallai hynny yn ei dro olygu nad oes angen cymaint o ofod swyddfa.
Mae’n bosibl lleihau problemau sy’n gysylltiedig â theithio, er enghraifft, staff yn methu â dod i’r gwaith oherwydd oedi ar y ffyrdd neu’r rheilffyrdd.
Gallai demtio staff gwell i ddod i weithio i’r cwmni.
Anfantais i’r cyflogwr
Mae angen i gyflogwyr allu ymddiried yn eu staff a bod yn barod i gael llai o reolaeth uniongyrchol drostynt.
Manteision i’r gweithiwr
Gweithio mewn amgylchedd cyfforddus – eu cartref.
Dim taith i’r gwaith a dim costau teithio.
Gweithio o amgylch anghenion y teulu.
Anfanteision i’r gweithiwr
Llai o ryngweithio â phobl – llai o gyfleoedd i gyfarfod pobl, rhannu syniadau, ac yn y blaen.
Anos gweithio fel rhan o dîm, yn enwedig os yw pawb yn gweithio mewn swyddfa.
Mwy o demtasiwn i dreulio amser yn gwneud pethau sydd ddim yn gysylltiedig â gwaith.