Erbyn hyn mae TGCh yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ac mae wedi newid patrymau gweithio. Mae gan TGCh fanteision ac anfanteision.
Mae technoleg gwybodaeth wedi arwain at lawer o newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n gweithio, lle rydyn ni’n gweithio a hyd yn oed pryd rydyn ni’n gweithio. Mae wedi cael effaith anhygoel ar ein gwaith.
Heddiw, mae cwsmeriaid yn disgwyl i hyd yn oed y busnesau lleiaf gael gwefan broffesiynol, llawn gwybodaeth. Mae busnesau sydd heb symud gyda’r oes a dal i fyny â’r datblygiadau ym maes cyfathrebu a TGCh wedi rhoi eu hunain dan anfantais.
Erbyn hyn mae’n gyffredin i hysbysebion gynnwys cyfeiriad gwe yn ogystal â rhif ffôn, neu hyd yn oed yn lle rhif ffôn.
Mae cyflwyno technoleg gwybodaeth wedi achosi rhywfaint o ddiweithdra, er enghraifft:
Er hyn, mae’n deg dweud bod datblygu technoleg gwybodaeth wedi arwain at lawer o swyddi newydd megis technegwyr cyfrifiadurol, rhaglenwyr, cynllunwyr gwefannau a dadansoddwyr systemau.
Mae TG yn fwy tebygol o fod wedi newid gwaith rhywun yn hytrach nag achosi i rywun golli ei waith. Mewn ambell broffesiwn mae pobl wedi gorfod cael eu hailhyfforddi i ddefnyddio technoleg fodern: