Archwilia gredoau Cristnogol am hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol, a sut mae dysgeidiaethau Cristnogol yn gallu dylanwadu ar farn Cristnogion ynglŷn â hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae sensoriaeth yn golygu archwilio gwahanol fathau o gyfryngau a gwahardd rhannau sy’n cael eu hystyried yn annerbyniol. Gall y cyfryngau gael eu hystyried yn annerbyniol am lawer o wahanol resymau, er enghraifft oherwydd eu bod yn dreisgar, o natur rywiol neu’n defnyddio iaith anweddus.
Mae deddfau sensoriaeth hefyd yn gallu atal pobl rhag dweud pethau. Yn y Deyrnas Unedig, mae gan bobl ryddid i fynegi eu barn am faterion fel crefydd, cyn belled nad yw hynny’n ysgogi casineb neu’n gwahaniaethu yn erbyn y dilynwyr.
Yn y gorffennol, roedd yr Eglwys yn sensro unrhyw lyfrau a oedd yn gwrth-ddweud neu’n siarad yn erbyn ei dysgeidiaethau a’i ffydd.
Roedd y rhestr o lyfrau a gafodd eu gwahardd yn cynnwys gwaith yr awduron canlynol:
Roedd llawer o’r llyfrau a oedd wedi cael eu gwahardd yn waith gwyddonol a oedd yn gwrthbrofi’r hyn roedd yr Eglwys yn ei ddysgu am bynciau fel y creu.
Cafodd y rhestr ei diddymu yn 1966, ond mae rhai gwledydd Cristnogol yn dal i wahardd rhai llyfrau, ffilmiau a cherddoriaeth os ydyn nhw’n groes i ddysgeidiaethau’r Eglwys.
Yn y rhan fwyaf o draddodiadau crefyddol roedd safbwyntiau’n cael eu mynegi ynglŷn â beth sy’n dderbyniol o safbwynt moesol. Mae llawer o blaid sensro’r cyfryngau oherwydd bod hyn yn helpu i leihau’r ymddygiad eithafol y gallem fod yn ei weld fel arall.
Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn galluogi grwpiau crefyddol i sensro beth sy’n cael ei ddangos yn y cyfryngau: