Hybu hawliau dynol

Oherwydd eu bod nhw’n credu bod bywyd dynol yn arbennig ac wedi ei roi gan Dduw, bydd Cristnogion yn gwneud popeth posibl i hybu hawliau dynol. Mae hawliau dynol yn cyfeirio at ryddid a hawliau sylfaenol pob bod dynol yn y byd. Mae Cristnogion yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, er enghraifft cefnogi elusennau fel Amnest Rhyngwladol sy’n ymgyrchu dros hawliau dynol.

Agape ar waith

Mae Cristnogion hefyd yn ceisio dangos agape at bob unigolyn. Mae hyn yn cyfeirio at gariad diamod ac anhunanol. Dyma’r math o gariad a ddangosodd Iesu tuag at bobl eraill, ac mae Cristnogion yn credu dylen nhw ddilyn yr esiampl hwn hefyd. Mae’r syniad o gariad agape i’w weld yn llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid:

quote
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.1 Corinthians 13:4-8

Enghraifft o agape ar waith

Enghraifft o Iesu yn dangos agape yw’r ffordd y rhoddodd ei fywyd i achub pobl eraill. Dyma’r math o gariad mae rhywun yn ei ddangos heb ddisgwyl dim byd yn ôl. Mae llawer o Gristnogion yn ymgyrchu dros hawliau dynol i ddangos agape ar waith.

Mae Cristnogion yn ceisio dangos dysgeidiaethau cariad agape pryd bynnag mae hynny’n bosibl. Mae llawer o enghreifftiau o gariad agape yn cael ei ddangos yng Nghymru, er enghraifft, y gwaith sy’n cael ei wneud mewn eglwysi gan arweinwyr crefyddol, a’r Cristnogion sydd wedi cysegru eu bywydau i helpu eraill. Mae enghraifft o gariad agape yng Nghymru i’w gweld mewn elusen Gristnogol o’r enw Gweini. Nod yr elusen yw creu cymdeithas sefydlog i bawb, lle mae parch ac urddas yn cael eu dangos at bobl.

Diwinyddiaeth rhyddhad

Mudiad crefyddol sy’n ymwneud ag unigolion yn defnyddio eu ffydd a’u cred grefyddol i helpu a chefnogi pobl eraill, yn enwedig pobl dlawd yw diwinyddiaeth rhyddhad. Mae’n seiliedig ar ddysgeidiaethau a gweithredoedd Iesu.

Yn ystod ei oes fe wnaeth Iesu helpu llawer o bobl a oedd yn byw dan amodau annheg. Mae Cristnogion yn credu bod gan Dduw y grym i newid pethau sy’n anghyfiawn yn y byd. Mae llawer o Gristnogion wedi cymryd rhan mewn protestiadau neu ymgyrchoedd heddychlon i wrthwynebu gorthrwm.

Enghraifft o ddiwinyddiaeth rhyddhad

Enghraifft o unigolyn wnaeth gefnogi diwinyddiaeth rhyddhad a siarad yn erbyn anghyfiawnder yw Óscar Romero, Archesgob gyda’r Eglwys Gatholig yn San Salvador, yn Ne America, rhwng 1977 a 1980. Cafodd ei lofruddio wrth ddathlu’r offeren oherwydd ei fod wedi sefyll yn erbyn yr anghyfiawnder cymdeithasol a’r arteithio a oedd yn digwydd yn San Salvador ar y pryd.

Question

Disgrifia pam mae rhai Cristnogion yn hybu hawliau dynol.

Mae Cristnogion yn rhoi pwyslais mawr ar urddas bywyd dynol. Mae hyn yn dod o’r dysgeidiaethau bod pob bod dynol yn gysegredig ac wedi ei greu ar ddelw Duw. Mae llawer o Gristnogion yn ceisio dilyn esiampl Iesu yn y Testament Newydd a oedd yn helpu pobl eraill ac yn dangos parch at bawb. Maen nhw hefyd yn ceisio rhoi dysgeidiaeth agape, neu gariad diamod, ar waith. Maen nhw’n gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd, er enghraifft, drwy gefnogi elusennau fel Amnest Rhyngwladol, a chefnogi protestiadau ac ymgyrchoedd heddychlon er mwyn cefnogi’r credoau sy’n bwysig iddyn nhw.

Gwrthdaro rhwng cyfraith a ffydd

Weithiau mae gwrthdaro rhwng credoau crefyddol a chyfraith gwlad.

Enghraifft o wrthdaro rhwng y gyfraith a chrefydd

Roedd Martin Luther King Jr. yn credu bod angen newid y gyfraith er mwyn cael hawliau cyfartal i gymunedau du a gwyn yn Unol Daleithiau America mewn cyfnod pan oedd pobl wyn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ddu ac yn eu trin yn israddol. Roedd ganddo ffydd Gristnogol gref ac roedd yn credu mewn cydraddoldeb i bawb. Roedd yn ymgyrchu drwy ddefnyddio dulliau heddychlon i sefyll dros y credoau hyn. Ar ôl arwain mudiad hawliau sifil yn llwyddiannus, ennill gwobr heddwch Nobel a sicrhau newid yn y gyfraith i gael hawliau cyfartal i’r gymuned ddu, cafodd ei lofruddio gan ddyn hiliol oedd ddim yn cytuno â’i ddysgeidiaethau.