Manteision defnyddio TGCh mewn arbrofion gwyddonol
Dulliau mwy effeithlon o logio data
Mae arbrofion sy’n defnyddio cyfarpar logio data yn gallu:
- cymryd darlleniadau cywir iawn
- cael eu gadael heb fod angen pobl o’u cwmpas
- cael eu gosod i gymryd darlleniadau dros gyfnod hir, er enghraifft, darlleniadau tymheredd bob awr bob diwrnod
- cael eu gosod i gymryd llawer o ddarlleniadau mewn cyfnod byr
- cael eu defnyddio pan mae risg o ran diogelwch, er enghraifft, oerfel neu wres eithafol
Prosesu a chyflwyno canlyniadau’n well
- Mae’n bosibl prosesu’r data sy’n cael eu casglu o’r arbrawf gwyddonol drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol neu eu rhoi mewn taenlen.
- Mae’n bosibl cynhyrchu graffiau llinell, graffiau olwyn neu graffiau bar.
- Mae’n bosibl arddangos tabl gwerthoedd.
- Mae’n bosibl allforio y gwerthoedd i becyn cyhoeddi bwrdd gwaith (CBG).
- Mae’n bosibl ychwanegu testun i egluro’r arbrawf a’r canlyniadau sy’n cael eu dangos.
- Mae’n bosibl mewnforio clipluniau i roi amlinelliad gweledol a dangos yr arbrawf.
- Yna mae’n bosibl cadw’r adroddiad a’i ddosbarthu’n eang mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft ebost, post neu ffacs.
![Arbrawf dadansoddi pridd yn defnyddio planhigion a chyfrifiadur personol. Mae data’n cael eu harddangos ar y sgrin.]()