Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.
Mae’r diagram hwn yn dangos rhaglen reoli ar gyfer cynnal lefel y dŵr mewn tanc pysgod.
Mae’r rhaglen reoli yn storio’r lefelau dŵr uchaf ac isaf sy’n dderbyniol a pha gamau i’w cymryd os yw’r dŵr yn mynd yn uwch neu’n is na’r lefelau hyn.
Mae’r broses yn un barhaus ac mae’n cael ei galw’n gylchred adborth.