Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.
Mae synwyryddion yn cael eu defnyddio i fesur meintiau ffisegol, er enghraifft tymheredd, golau, gwasgedd, sain a lleithder. Maen nhw’n anfon signalau i’r prosesydd. Er enghraifft:
Mae meintiau ffisegol eraill y mae’n bosibl eu trosglwyddo’n syth i brosesydd y cyfrifiadur yn cynnwys:
Mae data fel gwasgedd, golau a thymheredd yn ddata analog. Rhaid i gyfrifiaduron gael data digidol.
Mae angen blwch rhyngwyneb neu drawsnewidydd analog i ddigidol (ADC) er mwyn trosi data analog y synwyryddion yn ddata digidol y gall y cyfrifiadur eu prosesu.